The Cardiff Wine Tasting Circle




Cylch Blasu Gwin Caerdydd

Mae aelodau'r Cylch Gwin yn dod o ystod eang o gefndiroedd ac yr hyn sydd ganddyn nhw'n gyffredin yw eu diddordeb neu eu cariad at win.

Rydym yn dysgu am winoedd, mathau o rawnwin a rhanbarthau/gwledydd gwin o amgylch y byd mewn amgylchfyd cyfeillgar sydd ddim yn snobyddlyd.

Mae sesiynau blasu fel arfer yn cynnwys 6-8 o winoedd wedi eu cyflwyno gan siaradwr proffesiynol, sydd weithiau'n Feistr o Win. Cynhelir cyfarfodydd mewn bariau a thai bwyta ar draws Caerdydd ar y nos Lun cyntaf o bob mis (heblaw am Awst a Rhagfyr) gyda chinio hwyliog yn dilyn fel arfer.

Mae aelodaeth ar agor i bawb ac os ydych chi'n gweithio yn y diwydiant arlwyo neu dim ond a diddordeb mewn dysgu mwy am win, mae croeso i chi ymuno a ni am un neu ddau o'n cyfarfodydd nesa cyn penderfynu ymuno a'r Cylch.

Gwelwch ein safle gwe www.cardiffwinetasting.co.uk am fanylion pellach am y Cylch, aelodaeth, dyddiadau a manylion llawn am ein rhaglen.

Mae rhaid i aelodau a gwesteion fod dros 18.

Fe edrychwn ni 'mlaen i gwrdd â chi!